top of page

NOFEL DROSEDD NEWYDD FFLUR DAFYDD YN "OGONEDDUS" YN ÔL RUSSELL T DAVIES.

"Gogoneddus!" - Russell T Davies

 

"Dwi'n amau y gwna i ddarllen llyfr gwell eleni." - Sarah Ward

 

"Thriller cyffrous sy’n llifo’n gyflym gyda thro annisgwyl." - Erin Kelly

 

“Archwiliad disglair o deulu a thirwedd, gyda dirgelwch syfrdanol wrth

ei wraidd.” - Emma Rous


🔗 Lluniau'r wasg: https://we.tl/t-htZUA5M8qK


Ar Fai 15 eleni, mi fydd yr awdur Fflur Dafydd yn cyhoeddi ei nofel fwyaf uchelgeisiol hyd yma, The House of WaterThriller seicolegol yw’r nofel, sy’n plethu trosedd, hunaniaeth a chyfrinachau cudd ac wedi’i lleoli mewn tref ddychmygol yng Nghymru sydd wedi ei dinistrio gan lifogydd.


Mae’r stori yn olrhain hanes merch ifanc o’r enw Iona, sydd yn wynebu trasiedi bersonol sy’n troi ei byd ben i waered, a’i gyrru ar gwest i ddarganfod y gwir am ei theulu.

Bydd y llyfr, a gyhoeddir gan Hodder & Stoughton, ar gael o 15 Mai 2025 mewn print, sain ac e-lyfr.


 

NOFEL DROSEDD GYDA DYFNDER LLENYDDOL AC YMDEIMLAD CRYF O LE


Yn ei hanfod, nofel drosedd yw  The House of Water  sydd yn cyffwrdd â themâu byd-eang ond mae’n ymdrin hefyd â threftadaeth, diwylliant a’r iaith Gymraeg mewn nofel sy’n amhosib ei rhoi i lawr.


 Gan edrych ymlaen at y cyhoeddiad, dywedodd Fflur Dafydd:


“Ro’n i eisiau ysgrifennu ‘thriller’ cyffrous a fyddai hefyd yn archwilio teulu a threftadaeth. Stori sy’n symud fel dŵr – lle mae gwirionedd, hunaniaeth a hanes yn newid eu ffurf yn barhaus. Mae’n edrych ar yr hyn ry’n ni’n etifeddu, yr hyn i ni’n yn glynu wrtho, a’r hyn sy’n gwrthod cael ei gladdu.  Dwi’n hynod o  falch o’r ymateb hyd yma ac yn edrych ymlaen at ei rannu gyda’m darllenwyr.”

 

Wrth ganmol gwaith diweddaraf Fflur Dafydd, dywedodd  yr awdur teledu adnabyddus, Russell T Davies:

“Dyma stori sydd yn neidio’n rymus drwy eiliadau mawr, beiddgar ac epig. Mae’r ysgrifennu’n ogoneddus. Gobeithio y bydd yn llwyddiant ysgubol.”

 

Y NOFEL BERFFAITH AR GYFER DARLLENWYR STRAEON TROSEDD A THRILLERS SEICOLEGOL

 

Yn The House of Water mae Fflur Dafydd, sydd a’i gwaith wedi ei addasu ar gyfer cyfresi teledu a ffilm, yn cyflwyno nofel sy’n cyffroi, yn herio ac yn synnu o’r dechrau i’r diwedd – gan gadarnhau ei statws fel un o leisiau llenyddol mwyaf cyffrous Cymru heddiw.


Gyda’i leoliad atmosfferig, arddull finiog a dirgelwch sy’n eich dal hyd y dudalen olaf, mae The House of Water yn sicr o aros yn y cof am amser hir.

Ar gael o 15 Mai 2025 yn Amazon, Waterstones, prif siopau llyfrau a siopau llyfrau annibynnol.

 

LANSIAD & TAITH

 

Bydd y nofel yn cael ei lansio’n swyddogol mewn digwyddiad arbennig yng Ngŵyl y Gelli eleni, ddydd Sul, 25 Mai 2025 a thaith o Gymru a’r Deyrnas Unedig i ddilyn.

 

Manylion + tocynnau: https://www.fflurdafydd.com/events 

 

<Diwedd>

  

Nodiadau at olygyddion: 


🔗📷 Lluniau’r Wasg: https://we.tl/t-htZUA5M8qK

🎙️Am gyfweliadau gyda Fflur Dafydd neu ymholiadau pellach, cysylltwch â:

07706860925






 
 
 

Comments


bottom of page