‘Ar Hyd y Nos’ gan Celtica Electronica ac Aleighcia Scott yn cael ei rhyddhau ar gyfer y Nadolig
- Nia Medi

- Nov 28, 2025
- 3 min read

LLuniau'r wasg | Credyd: Daniel Coughtrey: https://we.tl/t-yi0bXicHmE
Y Nadolig hwn, mae grŵp Celtica Electronica yn rhyddhau sengl Nadoligaidd newydd gyda’r gantores a’r cyflwynydd Aleighcia Scott, wrth iddynt ail-ddychmygu’r clasur , ‘Ar Hyd y Nos’.
Bydd y sengl, sy’n cael ei rhyddhau Dydd Gwener, Tachwedd 28 ar label Coco & Cwtsh, yn dod â gwres a naws aeafol - cân i’w mwynhau wrth y tân, gyda gwydraid o win poeth ac awyrgylch tawel y Nadolig. Ar gael yn ddigidol o ddydd Gwener yma, mi fydd fideo arbennig yn cyd-fynd â’r trac draw ar YouTube.
Wedi’i chynhyrchu gan Branwen Munn, a'r trefniant llinynnau gan Alwyn Humphreys, daw’r sengl oddi ar albwm cyntaf Celtica Electronica, fydd yn cael ei ryddhau yn 2026.
Dywedodd Aleighcia Scott
“Ynghyd â fy nhreftadaeth Jamaicaidd dwi wastad wedi teimlo cysylltiad cryf iawn â’m gwreiddiau Cymreig, ac mae dysgu Cymraeg wedi dod yn rhan bwysig o bwy ydw i fel artist. Mae ‘Ar Hyd y Nos’ yn gân sy’n cario cenedlaethau o leisiau Cymreig, ac mae ynddi dawelwch a chysur dwi wastad wedi’i garu. Roedd recordio hi gyda Celtica Electronica, rhoi ychydig o gynhesrwydd Nadoligaidd arni, ynghyd â bach o 'dub' - genre sydd wedi cael ei ysbrydoli gan reggae - yn brofiad arbennig iawn. Nadolig llawen iawn i bawb sy’n dathlu!”
Mae ‘Ar Hyd y Nos’ yn cael ei rhyddhau wrth i Aleighcia baratoi ar gyfer cyfres newydd o Y Llais, ble mae’n dychwelyd fel hyfforddwr ochr yn ochr â Syr Bryn Terfel, Yws Gwynedd a Bronwen Lewis. Mae ei gyrfa wedi mynd o nerth i nerth dros y blynyddoedd diwethaf; fe’i henwyd gan The Guardian fel un o artistiaid mwyaf cyffrous 2025, ynghyd â chyrraedd rhestr cerddoriaeth Ones to Watch y BBC.
Cyrhaeddodd ei halbwm cyntaf Windrush Baby rif 1 ar siart Reggae iTunes, cafodd ei enwebu ar gyfer Gwobr Gerddoriaeth Cymru, ac fe’i hystyriwyd ar gyfer y Grammy. A tase hyn ddim yn ddigon, dyma hi’n creu hanes eto gyda ‘Dod o’r Galon’ - y gân reggae Gymraeg gyntaf erioed i gyrraedd brig siart Reggae iTunes. Fel cyflwynydd ar BBC 1Xtra ac ar BBC Radio Cymru, mae Aleighcia’n parhau i ail-ddiffinio cerddoriaeth Gymraeg gyfoes.
Dywedodd Branwen Munn, Cynhyrchydd Celtica Electronica:
"Dwi’n caru catalog reggae Aleighcia, felly pan wnaeth hi ymuno â’r project Celtica Electronica, aeth fy meddwl yn syth at ‘dub’, un o fy hoff genres ac un sydd wedi dylanwadu cymaint ar gerddoriaeth electronig. Wnes i roi ambell i gyfeiriad cynnil at ‘dub’ yn y cynhyrchiad ar ein fersiwn ni o ‘Ar Hyd y Nos’, gan wybod bod greddf Aleighcia am y sŵn yn mynd i ddod â naturioldeb a chysylltiad arbennig. Dwi’n meddwl ein bod ni wedi llwyddo i barchu hanfod gwreiddiol y gân a hefyd dangos enaid llais Aleighcia.”
Cafodd Celtica Electronica ei ffurfio eleni gan Lucy J. Morgan, Branwen Munn, Alwyn Humphreys a’r cerddor o Lundain, Rob Eckland. Mae’r grŵp yn cyfuno traddodiadau cerddoriaeth Gymreig gyda threfniannau llinynnol ac elfennau electronig modern. Cafodd eu sengl gyntaf, O’r Niwl i’r Nef, gyda’r actor Mark Lewis Jones a’r canwr Steve Balsamo, ei rhyddhau’n gynharach eleni. Bydd yr albwm, fydd yn cael ei rhyddhau flwyddyn nesaf, yn parhau â’u gweledigaeth o ail-ddychmygu treftadaeth gerddorol Cymru ar gyfer cynulleidfa gyfoes.
<DIWEDD>
🎙️ Am ymholiadau’r wasg: nia@medipr.co.uk | 07706860925
Manylion rhyddhau:
Ar Hyd y Nos – 28 Tachwedd 2025
Wedi’i berfformio gan Celtica Electronica gyda Aleighcia Scott
ISRC: GX64E2500024
Geiriau: John Ceiriog Hughes
Cyfansoddwr: Traddodiadol (Awdur Anhysbys)
Trefniant llinynnol: Alwyn Humphreys
Arweinyddiaeth, rhaglennu: Rob Eckland
Cynhyrchydd, peiriannydd, rhaglennu, offerynnau electronig: Branwen Munn
Label: Coco & Cwtsh
.png)


Comments